Dal gafael!
O sgyrsiau lefel uchel yn Davos i newidiadau dramatig mewn masnach fyd-eang, mae hanner cyntaf 2025 eisoes wedi bod yn llawn digwyddiadau annisgwyl.
O Davos i dywydd mawr
Wrth i ni gamu i mewn i ddyddiau olaf yr haf, mae'n teimlo’n naturiol i oedi a myfyrio ar y flwyddyn hyd yn hyn. Yn aml, mae mis Awst yn dod â chymysgedd o heulwen a stormydd sydyn, gan ei wneud yn un o'r misoedd mwyaf anrhagweladwy o ran tywydd. Mewn sawl ffordd, mae tywydd mis Awst yn teimlo fel trosiad addas o’r flwyddyn hyd yn hyn.
Fel mewn blynyddoedd blaenorol, dechreuodd 2025 gydag arweinwyr byd-eang, gweithredwyr busnes ac arbenigwyr yn ymgynnull yn Davos, yn y Swistir, ar gyfer Cyfarfod Blynyddol Fforwm Economaidd y Byd. Gosododd thema eleni, sef “Cydweithio ar gyfer yr Oes Ddeallus,” y naws ar gyfer trafodaethau eang ar sut y gall cymdeithasau, economïau a diwydiannau addasu i newid technolegol cyflym wrth feithrin gwytnwch a chynhwysiant. Roedd y meysydd ffocws allweddol yn cynnwys meithrin ymddiriedaeth mewn sefydliadau a chydweithrediad rhyngwladol, nodi ffynonellau newydd o dwf economaidd, mynd i'r afael â dyfodol gwaith, addysg a gofal iechyd, cyflymu'r trawsnewidiad ynni byd-eang, a diogelu'r blaned. Roedd y fforwm hefyd yn archwilio sut mae technolegau sy'n dod i'r amlwg, megis deallusrwydd artiffisial, roboteg a biotechnoleg, yn ail-lunio diwydiannau ac yn herio modelau traddodiadol llywodraethu a busnes.
Hyd yn hyn, roedd 2025 yn siapio i fod yn flwyddyn gymharol dda.
Ychydig ar ôl Cyfarfod Blynyddol Fforwm Economaidd y Byd, symudwyd Cloc Dydd y Farn gan Fwletin y Gwyddonwyr Atomig ymlaen i 89 eiliad i hanner nos, gan nodi'r pwynt agosaf at drychineb byd-eang symbolaidd ers sefydlu’r cloc. I roi cyd-destun ehangach i chi, yn ystod uchafbwynt Argyfwng Taflegrau Ciwba yn 1962, arhosodd y Cloc ar saith munud i hanner nos, gan danlinellu bod risgiau heddiw’n cael eu hystyried hyd yn oed yn fwy acíwt a chymhleth.
Dychwelodd Donald Trump i'w swydd yn swyddogol fel 47fed Arlywydd yr Unol Daleithiau ym mis Ionawr. Er bod ei dymor cyntaf yn cael ei ystyried yn aml fel ffliwc - ni enillodd y bleidlais boblogaidd ac nid oedd ganddo unrhyw brofiad gwleidyddol blaenorol - roedd ei ailetholiad yn adlewyrchu dull mwy sicr a hyderus. Cafodd biliwnyddion technoleg blaenllaw, megis Elon Musk, eu rhoi i eistedd o flaen aelodau allweddol o'r cabinet yn ystod araith urddo Trump, a oedd yn ystum symbolaidd a oedd yn tynnu sylw at flaenoriaeth glir Trump o gadw pobl bwerus a chyfoethog ar ei ochr.
Oes Aur America?
Trwy gydol ei ymgyrch arlywyddol, dywedodd Trump dro ar ôl tro ei fod yn bwriadu gosod tariffau enfawr ar fewnforion tramor, a siaradodd am y polisi mewn termau disglair. Honnodd y byddai ei dariffau’n herio doethineb economaidd traddodiadol, yn cryfhau diwydiannau domestig, yn dychwelyd swyddi i'r Unol Daleithiau, ac yn cynhyrchu incwm sylweddol. Yn ôl Trump, “tariff” yw’r gair harddaf yn y geiriadur. Daw ei gariad at dariffau o William McKinley, sef 25ain Arlywydd yr Unol Daleithiau ar ôl ei ethol yn 1896. Adeiladodd ei enw da yn y Gyngres ar dariffau uchel, gan addo i amddiffyn busnesau Americanaidd a gweithwyr ffatri.
Yn ystod ei araith urddo, datganodd Donald Trump mai “dyma ddechrau oes aur America.” Ar ddechrau mis Ebrill bu iddo ddatgan 'Diwrnod Rhyddid' a chyhoeddodd y budd polisi masnach yr Unol Daleithiau’n cael ei ailwampio’n helaeth, gan ddatgan argyfwng cenedlaethol oherwydd diffyg masnach y wlad. Gosodwyd tariff sylfaenol o 10% ar fewnforion o bron pob gwlad (ac eithrio Rwsia a'u cynghreiriad agosaf, Belarus) gan ddechrau ar 5 Ebrill, gan osod tariffau penodol ar wledydd penodol - yn amrywio o 11% i 50% - yn dechrau ar 9 Ebrill.
Yr agwedd fwyaf rhyfedd ar 'Ddiwrnod Rhyddid' oedd y fathemateg y tu ôl i'r fformiwla tariff (a ddyfeisiwyd am yn ôl, yn ôl pob tebyg). Mae tariffau weithiau'n gwneud synnwyr. Ond maent ond yn dweud synnwyr os ydynt yn strategol iawn ac os ydynt yn ymwneud â maes penodol o'r economi, er enghraifft diwydiannau newydd (lle rydych yn ceisio mynd ati’n weithredol i ddatblygu sector). Yn y sefyllfa hon, byddech yn sicrhau bod strategaeth ddiwydiannol weithredol yn y maes hwnnw’n cyd-fynd â’r tariff. Nid oedd penderfyniad Trump yn strategol ac nid yw'n gysylltiedig ag unrhyw strategaeth ddiwydiannol.
Sylwais ym mis Ebrill fod gan Gymru, yr Iseldiroedd, Hong Kong, Brasil, Sawdi Arabia, Gwlad Belg ac Awstralia rywbeth yn gyffredin. Yn ôl Adran Fasnach yr Unol Daleithiau (Biwro Dadansoddi Economaidd), roedd y gwledydd hyn wedi mewnforio mwy i'r Unol Daleithiau nag yr oeddynt wedi ei allforio yn 2024. Hynny yw, roedd gan bob gwlad ddiffyg masnach gyda'r Unol Daleithiau y llynedd. Mae data gan Lywodraeth Cymru’n dangos bod cyfanswm y fasnach gyda'r Unol Daleithiau yn £6.4bn yn 2024, yn cynnwys £4.2bn mewn mewnforion a £2.2bn mewn allforion i'r wlad. Gan ddilyn rhesymeg Trump, felly, dylai Cymru osod tariffau ar fewnforion yr Unol Daleithiau i'r wlad!
Erbyn mis Mai, dechreuodd acronym newydd gylchredeg: TACO, talfyriad am “Trump Always Chickens Out”. Wedi'i fathu gan golofnydd y Financial Times, Robert Armstrong, defnyddiwyd y term i ddisgrifio'r hyn a nododd fel patrwm cylchol ym mholisi masnach yr Arlywydd Donald Trump: cyhoeddi mesurau tariff beiddgar i ddechrau, sy'n tarfu ar farchnadoedd, ac yna gwrthdroadau, oedi neu ostyngiadau dilynol mewn ymateb i bwysau economaidd neu wleidyddol. Daeth Diwrnod Rhyddid yn enghraifft allweddol o'r TACO ar waith: cyhoeddiad polisi dramatig ac yna gwrthdroad.
Bargeinion newydd, cyfeiriad newydd
Mewn ymateb i'r byd masnachu newydd o ddiffynnaeth, dwyochraeth, a natur anrhagweladwy a grëwyd gan Donald Trump, dechreuodd llywodraeth y Deyrnas Unedig archwilio cytundebau masnach newydd ac adfywio rhai presennol. Y Deyrnas Unedig oedd y wlad gyntaf i lofnodi cytundeb masnach gyda'r Unol Daleithiau ar ôl Diwrnod Rhyddid. Er nad yw'r cytundeb yn fargen fasnach lawn, negododd y Deyrnas Unedig dariffau is ar ddur a cheir ac, yn gyfnewid, enillodd yr Unol Daleithiau fynediad cynyddol at farchnadoedd y Deyrnas Unedig ar gyfer cig eidion, ethanol a nwyddau diwydiannol. Mae'n anodd gwybod effaith lawn y cytundeb masnach hwn ar economi Cymru; mae'n fwyaf tebygol y bydd yn lleddfu'r pwysau ar y diwydiannau sydd fwyaf agored i dariffau heb effeithio ar y perfformiad economaidd cyffredinol.
Yn 2025, cyhoeddodd y Deyrnas Unedig hefyd ddau gytundeb masnach mawr gydag India a'r Undeb Ewropeaidd. Bu gostyngiad tariff ar 90% o nwyddau’r Deyrnas Unedig a allforiwyd i India, gan gynnwys wisgi, cig oen, dyfeisiau meddygol a pheiriannau trydanol, a thoriad anferth mewn tariffau sy’n gysylltiedig â cheir o dros 100% i 10%. Er nad oedd yn gytundeb masnach, roedd y cytundeb rhwng y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd yn cynrychioli ailosodiad yn eu perthynas. Er enghraifft, cytunwyd ar gydweithrediad ar gynllun symudedd ieuenctid, pasbortau anifeiliaid anwes, cytundeb pysgota, a chytundeb glanweithiol a ffytoiechydol. Ar y cyfan, dylai'r ddau gytundeb masnach hyn fod o fudd i economi Cymru drwy ei gwneud hi'n haws gwerthu i'r gwledydd hyn a sicrhau y gall cynhyrchion gystadlu o ran pris.
Cynlluniau mawr, cyllideb fach: Strategaeth ddiwydiannol y Deyrnas Unedig yn wynebu realiti cyllidol
Gan adeiladu ar y momentwm newydd o amgylch strategaeth ddiwydiannol, lansiodd llywodraeth y Deyrnas Unedig ei strategaeth ddiwydiannol hir-ddisgwyliedig ym mis Mehefin: sef cynllun 10 mlynedd a gynlluniwyd i hybu'r economi a chefnogi rhanbarthau sydd wedi wynebu heriau economaidd. Mae'r strategaeth yn canolbwyntio ar wyth sector allweddol y disgwylir iddynt sbarduno twf yn y dyfodol: gweithgynhyrchu uwch, diwydiannau creadigol, gwyddorau bywyd, ynni glân, amddiffyn, digidol a thechnoleg (gan gynnwys deallusrwydd artiffisial a chyfrifiadura cwantwm), gwasanaethau ariannol megis bancio ac yswiriant, a gwasanaethau proffesiynol megis y gyfraith a chyfrifeg. Bydd y sectorau hyn yn derbyn cefnogaeth wedi'i thargedu, gan gynnwys ynni rhatach, cymorth masnach, a buddsoddiad mewn hyfforddiant sgiliau.
Mae llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gweld ei strategaeth ddiwydiannol fel darn allweddol o'r pos o ran ysgogi twf economaidd hirdymor ledled y wlad. A nawr yw'r amser i'r llywodraeth daro'r cyflymydd economaidd.
Er bod ansicrwydd sy'n gysylltiedig â thariffau wedi lleddfu, mae data diweddar yn awgrymu bod twf sylfaenol CMC y Deyrnas Unedig yn parhau i fod yn llonydd i bob pwrpas. Mae dangosyddion y farchnad lafur, gan gynnwys twf cyflogaeth a chyflogau, wedi gwanhau, tra bod problem chwyddiant y Deyrnas Unedig yn parhau heb ei datrys. Mae hyn yn creu amgylchedd anodd iawn i Ganghellor y Deyrnas Unedig, Rachel Reeves.
Ym mis Awst, gollyngodd y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (NIESR) wiriad realiti ariannol: os yw'r Canghellor Rachel Reeves eisiau glynu wrth ei rheolau benthyca ei hun, mae'n debyg y bydd angen codi trethi yr hydref hwn. Yn ôl NIESR, mae'r llywodraeth yn debygol o fethu ei tharged o swm syfrdanol o £41.2 biliwn. Disgwyliwch ddigon o ddadlau dros y misoedd nesaf ynghylch trethi cyfoeth, yn enwedig o ran trethi sy'n gysylltiedig ag eiddo ac etifeddiaeth. Gyda'r genhedlaeth 'baby boomers' yn trosglwyddo cyfoeth tai sylweddol, mae'n syniad deniadol, ond mae tystiolaeth ryngwladol yn awgrymu nad yw'n ateb hawdd. Rydym yn fwy tebygol o weld newidiadau o amgylch yr ymylon. Er mwyn codi refeniw sylweddol heb dorri addewid Llafur i beidio â chodi treth incwm i bobl sy'n gweithio, mae'n bosibl y bydd Reeves yn glynu wrth y penderfyniad i rewi trothwyon treth incwm; symudiad sy'n rhoi hwb tawel i goffrau'r llywodraeth.
Mae 2025 wedi bod yn llawn troeon economaidd. O newidiadau byd-eang i symudiadau polisi domestig beiddgar, mae economi Cymru wedi teimlo'r cryndod, er bod yr effaith lawn yn dal i ddatblygu. Ac os yw'r saith mis cyntaf yn unrhyw arwydd o’r dyfodol, mae gweddill y flwyddyn yn addo mwy o droeon ar hyd y ffordd: digwyddiadau rhyngwladol anrhagweladwy, cyhoeddiadau polisi dramatig, ac mae'n debyg y byddwn yn gweld codiadau treth hefyd. Byddwch yn barod am flwyddyn fyrlymus!