Gwersi o'r Ariannin: Bydd polisïau economaidd gwael parhaus yn gwneud gwlad gyfoethog yn wlad dlawd yn y pen draw
Mae cymunedau Cymreig yr Ariannin wedi dioddef caledi economaidd mawr ers y 1930au ac mae ganddynt wersi pwysig i ni yng Nghymru.
Rwyf wedi bod â diddordeb yn yr Ariannin erioed. Mae fy niddordeb wedi deillio o’r cymunedau Cymreig sydd yn rhanbarth Patagonia. Daeth chwyldro diwydiannol cyntaf y 18fed ganrif â newidiadau mawr i sawl rhan o Gymru (rydym yng nghanol y pedwerydd chwyldro diwydiannol ar hyn o bryd). Roedd y newidiadau hyn yn aml ar draul yr iaith Gymraeg a chymunedau gwledig, a daeth pobl yn bryderus bod Cymru yn raddol yn dod yn rhanbarth arall o Loegr. Mewn ymateb i hyn, penderfynodd nifer o Gymry fudo a cheisio eu ffortiwn yn rhywle arall. Daeth pobl at ei gilydd i drafod ac ystyried ble dylent fynd i ddechrau bywyd newydd, gan fynd â’u hiaith, eu diwylliant a’u hunaniaeth gyda hwy. Ar ôl ystyried sawl gwlad, gadawodd 153 o bobl eu cartrefi ym 1865 a sefydlu gwladfa Gymreig (Y Wladfa) ym Mhatagonia. Tyfodd y wladfa dros y blynyddoedd wrth i fwy o bobl gyrraedd o Gymru a chymunedau Cymreig mewn gwledydd eraill. Heddiw, mae dros 70,000 o Gymry ym Mhatagonia gyda llawer ohonynt yn dal i siarad Cymraeg fel iaith gyntaf. Mae’r ffordd y mae’r wladfa wedi dal gafael ar yr iaith Gymraeg a’i diwylliant yn drawiadol.
Ond yn ddiweddar, rwyf wedi datblygu diddordeb newydd yn yr Ariannin oherwydd eu prif weinidog rhyddfrydol newydd, Javier Milei. Mae'n gymeriad unigryw: Mae gan Milei fop afreolus o wallt sy'n adlewyrchu ei ddull anghydffurfiol ac mae'n disgrifio ei hun fel anarchydd cyfalafol sy'n credu mai dim ond rhan fach y dylai'r llywodraeth ei chwarae ym mywydau pobl. Mae wedi bod mewn grym ers Rhagfyr 2023 ac enillodd yr etholiad ar yr addewid y byddai’n arwain yr Ariannin allan o ddegawdau o ddirywiad economaidd. Mae'r wlad ar chwâl, mae tlodi'n parhau i godi, ac yn 2023 roedd y gyfradd chwyddiant dros 200%. Mae cynllun economaidd Milei yn cynnwys toriadau gwariant enfawr, preifateiddio pob cwmni cyhoeddus, rhyddfrydoli masnach a dadreoleiddio llafur. Mae wedi dweud wrth bobl yr Ariannin y bydd ei gynllun arfaethedig yn hynod o boenus dros y tymor byr ond mai dyma’r unig ffordd i wrthdroi’r dirywiad economaidd.
O un o wledydd cryfaf America Ladin i dros 80 mlynedd o ddioddefaint economaidd
Ar droad yr 20fed ganrif, roedd yr Ariannin ymhlith y pum gwlad gyfoethocaf yn y byd. Cafodd y wlad dwf economaidd cryf ar ôl ei huno ym 1852, a ategwyd gan foderneiddio sefydliadau cyhoeddus a chyfansoddiad wedi ei fodelu ar gyfansoddiad yr Unol Daleithiau. Cyrhaeddodd mwy na chwe miliwn o fewnfudwyr rhwng 1870 a 1914 i ateb y galw economaidd cynyddol. Buddsoddodd cyllidwyr rhyngwladol yng nghynhyrchwyr amaethyddol y wlad, a oedd yn caniatáu iddynt gynyddu allforion i fodloni'r galw rhyngwladol mawr am rawn, cig, gwlân a lledr. Gyda'i gilydd, helpodd y mewnfudwyr a'r cyllidwyr bweru'r twf economaidd cyflym a drawsnewidiodd y wlad a chyfrannu at gynyddu ei chyfoeth. Roedd cyfoeth yr Ariannin mor fawr bod y dywediad ‘riche comme un Argentin’ (mor gyfoethog â rhywun o’r Ariannin) yn ddywediad cyffredin a daeth prifddinas y wlad yn gartref i gangen dramor gyntaf Harrods ym 1914.
Gostyngodd y galw rhyngwladol am gynnyrch amaethyddol yn ystod y 1930au a chafodd hyn effaith ddinistriol ar economi’r Ariannin, a oedd wedi mynd i ddibynnu gormod ar allforio grawn a chig. Mewn ymateb i sefyllfa economaidd oedd yn gwaethygu, etholodd y bobl Juan Perón yn arlywydd ym 1946. Ynghyd â'i wraig, Eva Perón, cyflwynodd lawer o ddiwygiadau cymdeithasol gyda'r nod o helpu dosbarth gweithiol y wlad. Fodd bynnag, dim ond ychwanegu at y gwae economaidd wnaeth y gwario anghynaladwy gan y llywodraeth. Gwaethygodd y sefyllfa trwy gydol y 1970au a'r 1980au wrth i sawl cyfundrefn filwrol gymryd rheolaeth o'r wlad a dod â thwf marwaidd, cynnydd yn y lefelau dyled a gostyngiad mewn incwm go iawn. Erbyn y 1990au, rhoddodd y llywodraeth y gorau i’w model economaidd dan arweiniad y wladwriaeth o blaid cyfres o ddiwygiadau dan arweiniad y farchnad. Agorodd y diwygiadau hyn yr economi trwy ryddfrydoli masnach, dadreoleiddio a phreifateiddio mentrau a oedd yn eiddo i'r cyhoedd yn flaenorol. Hefyd, ar yr adeg hon, penderfynodd llywodraeth yr Ariannin mynegrifo’r arian cyfred cenedlaethol i ddoler yr Unol Daleithiau i geisio sefydlogi'r economi. Fodd bynnag, erbyn 2001 nid oedd modd cynnal hyn mwyach ac, o ganlyniad, ni allent dalu dyledion y wlad. Dyma oedd y nawfed tro i'r Ariannin fethu â thalu ei dyled.
Trwy gydol y cyfnod hwn, roedd chwyddiant yn broblem sylweddol. Roedd yr Ariannin yn wynebu gorchwyddiant yn yr 1980au, pan gynyddodd pris nwyddau a gwasanaethau fwy na 50% y mis! Er bod chwyddiant wedi gostwng, roedd yn dal i fod yn uwch na 200% yn 2023. Mae’r chwyddiant uchel presennol, ynghyd â chof pobl o gyfraddau uwch fyth, yn rhwystr difrifol i economi'r Ariannin. Mae aelwydydd a busnesau yn gyndyn o fenthyca arian oherwydd bod cyfraddau llog yn codi i wrthweithio chwyddiant uchel, a byddai naid mewn chwyddiant yn achosi i’w taliadau llog godi’n sydyn. Mae chwyddiant uchel wedi dirywio marchnad morgeisi domestig yr Ariannin, gan ei wneud bron yn amhosib i bobl fenthyca arian i brynu tŷ. Mae busnesau'n gyndyn o fenthyca oherwydd eu bod yn cofio sut gwnaeth y cynnydd blaenorol mewn chwyddiant, ac felly mewn cyfraddau llog, wthio’r hwch trwy’r siop mewn cwmnïau a oedd yn iach fel arall.
Mae’n rhaid i ni ddysgu o brofiad yr Ariannin
Mae gan yr Ariannin wersi pwysig i bawb. Y wers gyntaf, ac efallai’r bwysicaf, yw bod sefydlogrwydd prisiau yn fregus, a gall y gyfradd chwyddiant godi'n gyflym. Bydd cyfraddau chwyddiant uchel yn aros yng nghof pobl ac yn cael effeithiau niweidiol hirdymor. Er gwaethaf ei photensial enfawr ar ddechrau’r ugeinfed ganrif, mae gwleidyddiaeth ofnadwy a pholisïau economaidd gwael (ac anghyson) wedi gwneud yr Ariannin yn wlad dlawd. Yn 2023, roedd pedwar o bob deg o bobl Ariannin yn byw mewn tlodi. Mae twyll etholiadol, llygredd, dirywiad ymddiriedaeth mewn sefydliadau cyhoeddus, ac erydiad rheolaeth y gyfraith hefyd wedi cyfrannu at dranc economaidd yr Ariannin. Mae polareiddio dwfn wedi dod i'r amlwg yn y wlad, ac mae'r rhaniad eithafol hwn rhwng carfanau gwleidyddol adain chwith ac adain dde yn aml wedi arwain at anghytundeb gwleidyddol llwyr a gwrthdroi polisïau'r llywodraeth yn ddisymwth.
Bydd penderfyniadau anghywir parhaus gan lywodraeth a methiant i ddiogelu sefydliadau cyhoeddus a’u sylfaen, ynghyd â pholareiddio cymdeithasol, yn gwneud gwlad gyfoethog yn dlawd. Heddiw, yn fwy nag erioed, mae’n rhaid i ni ddysgu'r gwersi o'r Ariannin. Yn ôl yr OECD, y Deyrnas Unedig fydd yr economi sy’n perfformio waethaf yn y G7 y flwyddyn nesaf. Mae'r rhagfynegiad hwn yn seiliedig ar eu hasesiad bod polisïau'r llywodraeth wedi rhwystro twf economaidd tymor canolig a hirdymor. Yn anffodus, mae rhai polisïau diweddar wedi cael effaith andwyol ar yr economi. Er enghraifft, bu i gyllideb y Canghellor Kwasi Kwarteng ym mis Medi 2022 ddeffro’r ‘bond vigilantes’, gan arwain at ymchwydd mewn cyfraddau morgais a bygythiad i bensiynau pobl. Mae Brexit yn parhau i gael effaith: ar ddiwrnod olaf mis Ebrill, lansiodd Prydain gwiriadau corfforol a thâl defnyddiwr cyffredin ar gynhyrchion bwyd ffres a fewnforir o'r Undeb Ewropeaidd, a fydd yn gwthio prisiau i fyny i fusnesau ac i’r cyhoedd. Bydd merched a dynion ledled y wlad yn mynd i bleidleisio ar ryw adeg o fewn y naw mis nesaf yn etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig. Pan ddaw'r etholiad, bydd rhaid i bobl roi sylw i'r hyn y mae'r gwleidyddion yn dweud y byddant yn ei wneud er mwyn yr economi. Bu i ffrind arbennig fy atgoffa yn ddiweddar bod pobl yn cael y llywodraeth y maent yn ei haeddu ......ond mae dal gwleidyddion i gyfrif yn sicrhau eu bod yn cael y llywodraeth y maent yn ei fynnu.
Diddorol. Roeddwn yn byw yn Ariannin yn 2020 adeg Covid, ac yn gwylio Milei fel 'pundit' economi ar raglenni newyddion yn aml - mae'n ddipyn o gymeriad a deud y lleia! Amser a ddengys pa effaith geith ei bolisiau yn y tymor hir.