Gwersi o'r cae pêl droed: Beth all busnesau ei ddysgu gan bêl-droed yng Nghymru.
Mae trawsnewid Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn gorff llywodraethu modern, blaengar yn cynnig gwersi pwysig i fusnesau ledled Cymru.
Ym mis Ionawr, cefais y cyfle i fynd i wrando ar gyflwyniad gan Ian Gwyn Hughes, a fu’n trafod ei waith fel Pennaeth Cysylltiadau Cyhoeddus Cymdeithas Bêl-droed Cymru. Trefnwyd y digwyddiad gan Gangen Bangor Prifysgol Cymru, a bu’n trafod y digwyddiadau diweddaraf yn y byd pêl-droed cenedlaethol yng Nghymru, gan gynnwys UEFA Ewrop 2016, UEFA Ewrop 2020, a Chwpan y Byd FIFA 2022. Yn ei swydd, mae Ian wedi bod yn allweddol yn y gwaith o ail-drefnu’r gymdeithas i fod yn sefydliad sy’n hybu undod, gan feithrin cysylltiad gwirioneddol rhwng y chwaraewyr a’r cefnogwyr. Mae ei ymdrechion yn crynhoi mantra’r gymdeithas: “Gorau Chwarae, Cyd Chwarae”.
Mae trawsnewid Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn gorff llywodraethu modern, blaengar yn cynnig gwersi pwysig i fusnesau ledled Cymru.
Tua diwedd y 1990au a dechrau'r 2000au, roedd agwedd negyddol yn bodoli tuag at gynrychioli Cymru ar y cae pêl-droed. Roedd llawer o chwaraewyr, a oedd yn gysylltiedig yn bennaf â chlybiau’r uwch gynghrair â’u cyfleusterau rhagorol, yn ystyried cyfnodau gyda’r tîm cenedlaethol fel cyfleoedd i orffwys yn hytrach na chyfle i wisgo’r crys coch a gwneud eu gorau ar y cae. Er mwyn mynd i’r afael â’r agwedd hon, dechreuodd Gymdeithas Bêl-droed Cymru ar broses o drawsnewid, gan fuddsoddi’n sylweddol i ddyrchafu Cymru’n dîm haen uchaf gyda gwell cyfleusterau, mwy o staff a safonau uchel fel bod chwaraewyr yn cael gwell gofal. Yn ychwanegol, sefydlodd y gymdeithas fentrau i feithrin gwell dealltwriaeth o hanes a diwylliant Cymru ymhlith y chwaraewyr. Roedd gweithgareddau megis ymweld â bedd Hedd Wyn yng Ngwlad Belg ac ymweld ag Aberfan, safle trychineb glofaol 1966, yn hollbwysig er mwyn meithrin ymdeimlad o gysylltiad. Llwyddodd y strategaeth hon i ail-ffurfio ethos a meddylfryd y chwaraewyr, gan danio brwdfrydedd newydd dros gynrychioli Cymru a meithrin ymrwymiad cadarn i wneud eu gorau dros y genedl.
Mae pwysigrwydd meithrin diwylliant cryf mewn cwmni yn wers bwysig i fusnesau. Er bod llawer o fusnesau yn credu bod arddangos gwerthoedd craidd ar wal yn ddigon, mae profiad Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn tanlinellu bod angen mwy na hynny i greu diwylliant cwmni deinamig. Mae'n cynnwys yr awyrgylch sy’n croesawu’r staff wrth iddynt ddod i mewn i'r gwaith, dynameg rhyngweithio’r tîm a'r dulliau y mae’r busnes yn eu defnyddio i gyflawni ei nod. Mae diwylliant bywiog yn rhoi hyder i weithwyr yn eu gwaith ac yn eu hysgogi a'u hysbrydoli i wneud eu gorau. Mae meithrin diwylliant cwmni yn golygu arfogi timau â'r adnoddau sydd eu hangen arnynt, meithrin amgylchedd o fod yn agored a chydweithio, a chynnig llwybrau ar gyfer twf. Mae diwylliant cryf sy'n hyrwyddo gwaith tîm a chynwysoldeb yn cynyddu ymgysylltiad ac yn gwella perfformiad busnes.
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn flaengar yn ei hymdrechion i hyrwyddo pêl-droed mewn cymunedau ledled Cymru ac yn cryfhau’r cysylltiad rhwng chwaraewyr a chefnogwyr. Un ffordd y mae wedi gwneud hyn yw trwy gofleidio dwyieithrwydd y wlad a mynd ati i eirioli dros y Gymraeg. Er enghraifft, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi mabwysiadu 'Cymru' i gyfeirio at y tîm cenedlaethol, yn hytrach na'r term confensiynol 'Wales'. Dechreuodd y daith hon gyda Gary Speed, a oedd yn mynnu bod pob chwaraewr yn dysgu canu'r anthem genedlaethol. Trwy ei phartneriaeth gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, mae’r gymdeithas yn sicrhau bod yr holl chwaraewyr a staff yn cael cyfleoedd i ddysgu a mwynhau’r Gymraeg. Darperir rhaglenni dysgu wedi eu teilwra, yn amrywio o lefelau dechreuwyr i sesiynau magu hyder, ac mae cefnogwyr hefyd yn cael eu hannog i gymryd rhan yn y cyrsiau hyn. Mae’r gymdeithas wedi arwain ar hyn gyda'i phersonoliaeth fodern, gynhwysol.
Dylai busnesau ledled Cymru gydnabod manteision cael gweithwyr dwyieithog a’r effaith gadarnhaol y gall hyn ei gael ar gynhyrchiant a pherfformiad yn y gwaith. Tra bod y manteision ymarferol yn amlwg mewn gwlad ddwyieithog fel Cymru, mae manteision ychwanegol y tu hwnt i’r gallu i sgwrsio ag amrywiaeth ehangach o bobl. Mae ymchwil wedi dangos bod dwyieithrwydd yn gwneud gweithwyr yn fwy deallus gan ei fod yn cael effaith ddofn ar alluoedd gwybyddol nad ydynt yn gysylltiedig ag iaith a hyd yn oed yn eu diogelu rhag dementia yn eu henaint. Mae hyfedredd yn y Gymraeg a'r Saesneg yn cyfoethogi swyddogaeth weithredol yr ymennydd, y mecanwaith gwybyddol sy'n gyfrifol am gyfeirio prosesau sylw sy'n hanfodol i gynllunio, datrys problemau a chyflawni tasgau sy'n gofyn llawer yn feddyliol.
Nid oes gan Gymru sedd mewn cyrff rhyngwladol fel y Cenhedloedd Unedig (CU) neu Sefydliad Masnach y Byd (WTO), gan ei bod yn cael ei chynrychioli'n anuniongyrchol fel rhan o'r Deyrnas Unedig. Fodd bynnag, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn aelod llawn o UEFA a FIFA, gan roi presenoldeb amlwg i Gymru ar y llwyfan rhyngwladol. Mae'r aelodaeth hon wedi galluogi’r gymdeithas i ymgysylltu â phobl ledled y byd ac adeiladu rhwydweithiau anffurfiol, sydd, ymhlith pethau eraill, wedi ei helpu i werthu ei chyrsiau hyfforddi ar draws y byd. Mae llwyddiant diweddar y tîm pêl-droed cenedlaethol mewn digwyddiadau rhyngwladol mawr wedi ennyn diddordeb byd-eang sylweddol mewn deall agwedd Cymru at ddatblygu chwaraewyr. Mewn ymateb, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi datblygu rhaglen hyfforddi gyda'r nod o wella dealltwriaeth hyfforddwyr o agweddau technegol, corfforol, seicolegol a chymdeithasol pêl-droed modern. Mae'r ffaith bod Thierry Henry, Mikel Arteta a Patrick Vieira ymhlith graddedigion y rhaglen yn dyst i'w hansawdd a'i safonau uchel. Mae'r rhaglenni hyn bellach yn cael eu gwerthu ledled y byd, gan gynnwys mewn gwledydd fel yr Unol Daleithiau, Tsieina a Japan, gan wella gallu hyfforddwyr i gefnogi a meithrin chwaraewyr yn y gwledydd hynny.
Mae profiad Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn dangos potensial enfawr i ehangu cynnyrch neu wasanaethau i’r farchnad fyd-eang ac yn dangos bod modd gwneud hyn yn llwyddiannus o Gymru. Mae allforio i wledydd eraill yn cynnig llwybr i fusnesau wella gwerthiant a phroffidioldeb. Mae datblygiadau technolegol yn symleiddio'r broses o allforio ac nid yw lleoliad corfforol yn rhwystro gwerthu dramor mwyach. Mae mentro i farchnadoedd rhyngwladol yn galluogi busnesau i gynyddu amrywiaeth eu cwsmeriaid, gan leihau dibyniaeth ar unrhyw farchnad unigol. Tra bod economi Cymru yn aros yn ei unfan, mae economïau eraill ledled y byd yn tyfu, gyda defnyddwyr yn fodlon gwario eu harian ar gynnyrch a gwasanaethau newydd. Mae gan farchnadoedd rhyngwladol y potensial i ysgogi mwy o gynhyrchiant, gan arwain at ddarbodion maint a mwy o elw. Yn ogystal, mae anghenion a disgwyliadau amrywiol defnyddwyr mewn gwahanol wledydd yn cynnig cyfleoedd i fusnesau addasu eu cynhyrchion i ddarparu ar gyfer marchnadoedd newydd mewn modd effeithiol.
Mae treiddgarwch Ian Gwyn Hughes a thrawsnewidiad Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn cynnig gwersi defnyddiol i bob busnes. Mae llwyddiant Cymru yn esiampl o ysbrydoliaeth, gan ddangos sut y gall diwylliant, iaith, ac agwedd fyd-eang helpu i yrru busnesau tuag at lwyddiant yng Nghymru a thu hwnt.