Mae angen trafodaeth ddifrifol arnom am anghydraddoldeb cyfoeth
Os nad oes gan bobl gyfoeth mae’n gwneud bywydau pobl yn fwy ansicr ac yn ei gwneud yn fwy tebygol y cânt eu tynnu i dlodi. Er bod anghydraddoldeb cyfoeth ar gynnydd, nid yw pryder y cyhoedd a gweithr
Croesawodd Washington, D.C. lawer o filiwnyddion y byd i sefydlu Donald Trump ar Ionawr 20. Ymhlith y rhai a fu’n bresennol oedd tri dyn cyfoethocaf y byd: Elon Musk, Jeff Bezos (Prif Swyddog Gweithredol Amazon), a Mark Zuckerberg (Prif Swyddog Gweithredol Meta). Yn ôl Bloomberg, mae gan y tri gyfoeth cyfun o bron i $900 biliwn. Fel biliwnyddion eraill, maent wedi cronni cyfoeth enfawr trwy eu perchnogaeth o gyfranddaliadau ac asedau cwmniau; wrth i werth y rheini gynyddu, felly hefyd gyfoeth eu perchnogion.
Mae adroddiad diweddar Oxfam, “Takers Not Makers,” yn rhagweld y bydd o leiaf bum triliwnydd yn ymddangos yn y deng mlynedd nesaf. Cynyddodd cyfoeth y biliwnyddion byd-eang tua $2 triliwn yn 2024, cyfradd deirgwaith yn uwch nag yn 2023, sef cynnydd dyddiol oddeutu $5.7 biliwn ar gyfartaledd. Gwelwyd tuedd debyg yn y Deyrnas Unedig. Yn syfrdanol ddigon, cynyddodd cyfoeth biliwnyddion y Deyrnas Unedig £35 miliwn y dydd yn 2024, a chyrraedd cyfanswm o £182 biliwn, yn ôl adroddiad Oxfam, a gyhoeddwyd fis Ionawr 2025.
Yn ei araith ffarwel, rhybuddiodd y cyn-Arlywydd Joe Biden fod cyfoethogion tra ariannog ar gynnydd yn yr Unol Daleithiau, a’u bod yn fygythiad i ddemocratiaeth. Mae unigolion tra chyfoethog yn gallu defnyddio eu cyfoeth i ddylanwadu ar wleidyddiaeth mewn ffyrdd sy'n diogelu eu hasedau yn y pen draw. Mae cyfoeth yn cynhyrchu pŵer sy’n cael ei ddefnyddio, yn ei dro, i amddiffyn cyfoeth. Mae presenoldeb y bobl gyfoethocaf yn y byd yn y sefydlu’n awgrymu gweinyddiaeth sy'n blaenoriaethu'r rhai y mae ganddynt gysylltiadau o bwys trwy bolisïau ar drethi, llafur, masnach, a mwy. Mae'r cynnydd yn nifer biliwnyddion y Deyrnas Unedig wedi tanio pryderon bod elît pwerus yn codi a chanddynt gyfoeth anghymesur.
Mae deall cyfoeth yn heriol oherwydd, yn wahanol i incwm, stoc ydyw ac nid swm ariannol sefydlog. Er bod y geiriau’n aml yn cael eu defnyddio'n gyfnewidiol, mae gwahaniaethau allweddol rhwng cynilion, asedau a chyfoeth. Cynilion yw’r arian y mae rhywun yn ei arbed. Y prif fathau o asedau y mae pobl yn berchen arnynt yw asedau ariannol, megis cyfranddaliadau a phensiynau a'u cynilion, ac asedau ffisegol, megis eu cartrefi. Gall yr asedau hynny greu enillion neu ffrydiau incwm, fel y rhai o berchen cyfranddaliadau, sy’n cynrychioli stôr o gyfoeth. Mae cyfanswm cyfoeth rhywun yn golygu cyfanswm gwerth asedau a chynilion rhywun, llai unrhyw ddyledion neu fenthyciadau fel morgeisi neu ddyledion cerdyn credyd.
Un o'r newidiadau cymdeithasol sy'n peri pryder dros yr 50 mlynedd diwethaf fu'r cynnydd mawr mewn cyfoeth o'i gymharu ag incwm. Mae gwerth cartref neu bensiwn teilwng wedi codi’n uwch nag unrhyw dwf mewn incwm. Achosodd hynny raniad clir rhwng y rhai sydd eisoes yn berchen ar asedau o’r fath, a’r rhai a’u gwelodd yn mynd y tu hwnt i’w cyrraedd.
Cynyddodd pris cyfranddaliadau (dim ond ychydig o bobl sy’n berchen arnynt), eiddo (y mae llawer mwy’n berchen arno), a phrisiau asedau eraill yn y blynyddoedd diwethaf ac yn sgil hynny bu cynnydd yng nghyfoeth aelwydydd hyd at oddeutu saith gwaith yr incwm cenedlaethol, cynnydd sylweddol ar dair gwaith fel a fu, fel yr adroddodd Resolution Foundation. Mae'r gymhareb gynyddol rhwng cyfoeth-ac-incwm yn trawsnewid ein cymdeithas o un sy'n seiliedig ar enillion i un sy'n seiliedig ar berchnogaeth.
Mae anghydraddoldeb incwm yn fetrig sy'n dangos sut mae incwm yn cael ei ddosbarthu ymhlith y boblogaeth. Yn yr un modd, caiff dosbarthiad gwerth net ymhlith y boblogaeth ei fesur gan anghydraddoldeb cyfoeth. Cyfrifodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ddosbarthiad cyfanswm cyfoeth aelwydydd yn ôl nodweddion amrywiol ym Mhrydain Fawr rhwng 2018 a 2020. Amcangyfrifwyd mai cyfanswm cyfoeth canolrifol (cyfartalol) aelwydydd Prydain Fawr oedd £302,500. De-ddwyrain Lloegr oedd â'r cyfoeth cartref canolrifol uchaf sef £503,400 a'r gwerth i Gymru oedd £275,700. Gogledd-ddwyrain Lloegr oedd â'r cyfoeth cartref canolrifol isaf sef £168,500.
Roedd cyfoeth canolrifol yr aelwydydd o £503,400 20% yn uwch nag oedd rhwng 2006 a 2008, ar ôl addasu ar gyfer chwyddiant. Ym Mhrydain Fawr, roedd gan y 10% uchaf 43% o gyfoeth y wlad; o’i gymharu â’r 50% isaf yr oedd ganddynt 9% yn unig. Yn y rhan fwyaf o aelwydydd, yr asedau ariannol net oedd yr elfen leiaf sylweddol o gyfanswm eu cyfoeth. Roedd brig eithaf y dosbarthiad cyfoeth wedi'i ystumio'n drwm. Roedd gan yr 1% cyfoethocaf fwy o gyfoeth na'r 80% isaf gyda’i gilydd.
Mae nifer o fanteision i gyfoeth. Mae cyfoeth yn dod â phŵer, bri, a safle cymdeithasol yn ei sgil, ond mae ei effaith yn fwy o lawer na hynny. Ar lefel uchel, mae cyfoeth yn helpu pobl deimlo'n ddiogel a bod ganddynt reolaeth dros eu bywydau a gall gynnig rhwyd ddiogelwch. Fodd bynnag, nid yw meddu ar asedau ffisegol fel elfen bwysig o holl gyfoeth rhywun yn cynnig rhwyd ddiogelwch bob amser oherwydd nad yw’n bosib gwerthu’r ased (e.e. cartref) bob amser heb achosi problemau eraill.
Mae i gyfoeth rhieni gysylltiadau cadarnhaol â llwyddiant addysgol eu plant a’u henillion at y dyfodol, ni waeth beth fo lefel addysg neu incwm eu rhieni. Mae anghydraddoldeb cyfoeth, yn debyg iawn i anghydraddoldeb incwm, yn peri effaith andwyol ar iechyd y boblogaeth. Yn ôl y King’s Fund (melin drafod yn y Deyrnas Unedig sy’n canolbwyntio ar iechyd), mae anghydraddoldeb cyfoeth yn gysylltiedig â marwolaethau babanod a disgwyliad oes merched. Bydd y cynnydd ym mhrisiau eiddo’n codi cyfoeth perchnogion, ond bydd yn atal y gweithwyr ifanc hynny - a'r gweithwyr canol oed cynyddol - rhag prynu cartref ac i rentu tai preifat costus.
Mae ystyried cyfoeth yn caniatáu ar gyfer adnabyddiaeth fwy manwl gywir o'r rhai sydd angen help ac ymyriadau polisi sydd wedi'u targedu'n well. Mae yna lawer o ddamcaniaethau ynglŷn â sut y gall mynediad at gyfoeth a’i gronni helpu codi pobl allan o dlodi. Mae asedau'n cynhyrchu incwm, gan gynnwys incwm ariannol (pensiynau), buddion anariannol (tai), ac enillion cyfalaf (gwerth eiddo uwch, llog cynilion). Mae'r rheini’n cynnig amddiffyniad tebyg i yswiriant a gallant lyfnhau incwm ar hyd oes rhywun.
Er bod anghydraddoldeb cyfoeth yn uchel ac yn codi, ni roddir lefel gyfatebol o sylw cyhoeddus nac ymgysylltiad gwleidyddol iddo. Ar hyn o bryd, nid yw cymdeithas yn ystyried anghydraddoldeb cyfoeth fel problem gymdeithasol yn yr un modd â thlodi. Mae anghydraddoldeb cyfoeth yn sbarduno patrymau ansicrwydd a gall hyd yn oed symiau bach o gyfoeth ddiogelu pobl rhag tlodi.
Wrth inni symud drwy’r flwyddyn newydd, mae’n hollbwysig rhoi lle canolog i gydraddoldeb cyfoeth yn agendâu newid cymdeithasol yng Nghymru.