Model economaidd sy’n cefnogi cymunedau
Er mwyn gwneud newid gwirioneddol i'n cymunedau mae angen inni ofyn cwestiynau newydd am bwrpas cymdeithasol ac economaidd asedau lleol.
A minnau’n paratoi at flwyddyn academaidd newydd, mae’n bryd ailedrych ar rai o'r modelau economaidd y byddaf yn eu dysgu i'r myfyrwyr. Dros fisoedd yr haf ymddiddorais yn neilltuol mewn un math o fodel: perchnogaeth gymunedol. Mae hwnnw’n fodel syml ond hynod bwerus. Mae’n harneisio’r gallu, y sgiliau a’r arloesedd cyfunol sydd mewn cymunedau ac mae’n cyfeirio’r rheini at gyflawni canlyniadau sydd o fudd penodol i’r gymuned. Gall helpu meithrin cymunedau mwy gwydn, pennu gwir anghenion y cymunedau, a grymuso, ac uwchsgilio pobl leol.
Nid yw’r syniad o gymunedau’n cymryd perchnogaeth dros asedau lleol (trwy eu prynu, eu prydlesu, eu rheoli neu hyd yn oed greu rhywbeth newydd sbon) yn newydd. Dros 400 mlynedd yn ôl cymerodd y Cloddwyr (grŵp o wrthwynebwyr crefyddol a gwleidyddol yn Lloegr) dir nad oedd neb ei ddefnyddio a hynny er lles pawb. Roedd sefydliadau elusennol cynnar yn berchen ar dir ac adeiladau i gefnogi pobl dlawd. Roedd gwreiddiau cydberchnogaeth asedau hefyd yn y traddodiad cydweithredol a chydfuddiannol o gydberchnogaeth yr aelodau. Bu aneddiadau a chanolfannau gweithredu cymdeithasol, canolfannau cymunedol a neuaddau pentref yn rheoli adeilad yn aml fel rhan o gyflwyno eu gwasanaethau.
Heddiw, mae digonedd o enghreifftiau o fentrau sy’n eiddo i’r gymuned yng Nghymru sy’n darparu gwasanaethau amhrisiadwy a budd i bobl leol. Yr Iorwerth Arms ym Mryngwran (Ynys Môn), Partneriaeth Ogwen ym Methesda (Gwynedd), Siop Gymunedol Pwll-glas yn Rhuthun (Sir Ddinbych), Siop Gymunedol Llanfechain yn Llanfechain (Powys), Tafarn Sinc yng Nghlunderwen (Sir Benfro), Siop y Parc ger Aberystwyth (Ceredigion), a Galeri (Caernarfon -y fenter gymunedol fwyaf yng Nghymru) yn enghreifftiau o fentrau sy’n eiddo i’r gymuned ledled Cymru. Mae cymunedau ledled Cymru hefyd yn cymryd yr awenau i fynd i’r afael â’r argyfwng tai drwy adeiladu eu heiddo eu hunain a fydd yn fforddiadwy i bobl leol. Er enghraifft, daeth ymddiriedolaeth tir cymunedol Bro’r Eifl ym Mhen Llŷn ynghyd i ddatblygu tai fforddiadwy i bobl leol trwy ddefnyddio model ymddiriedolaeth tir cymunedol, sy’n sicrhau bod tir ac asedau’n aros ym mherchnogaeth y gymuned leol am byth.
Ledled Cymru gyfan mae mwy o gymunedau’n cymryd yr awenau i brynu asedau sydd o ddiddordeb lleol a sicrhau eu bod yn cael eu gweithredu er budd hirdymor y cymunedau dan sylw. Er enghraifft, mae Menter Felinheli, menter gymdeithasol a arweinir gan y gymuned, yn ceisio cymryd perchnogaeth dros harbwr 260 oed ym mhentref Felinheli (Gwynedd). Datblygodd Menter Felinheli strategaeth ariannol a chyn bo hir bydd yn lansio cynnig cyfranddaliadau cymunedol fel rhan o becyn cyllid cyfunol i brynu’r harbwr (gan gynnwys y marina â 180 o angorfeydd). Os bydd yn llwyddiannus, daw â budd cymdeithasol ac economaidd uniongyrchol i’r gymuned a bydd yn dangos y gall mentrau perchnogaeth gymunedol fod yn uchelgeisiol, yn greadigol ac yn ymarferol.
Daeth y mentrau hynny, ac eraill ledled Cymru, ymdeimlad o bwrpas a chyflawniad, â gwerthfawrogiad o hanes lleol a chenedlaethol, gan adnewyddu a hybu'r ymdeimlad o gymuned. Llwyddodd rhai i greu hunaniaeth gymdeithasol newydd i’r gymuned, a chysylltu pobl a fyddai o bosib wedi aros yn gymdogion anhysbys fel arall, a chynnal man arwyddocaol sy’n gonglfaen iddynt yn hanes y gymuned.
Mae gan fentrau o bob math werth cynhenid naill ai oherwydd eu cyfraniad at nwyddau cymdeithasol amrywiol, gan gynnwys llesiant ar y cyd ac yn unigol, hunaniaeth ddiwylliannol neu gyfranogiad, neu i’w gwerth economaidd. Wrth i’r diddordeb mewn meithrin cyfoeth lleol gynyddu, dylai potensial economaidd mentrau perchnogaeth gymunedol fod yn rhan o'r gweithgareddau, a’r rheini wedi'u cynllunio i feithrin cyfoeth lleol, a rennir, yn enwedig mewn lleoedd sydd o dan anfantais economaidd. O wella proffil economaidd y lle trwy gynhyrchu refeniw, cyflogaeth, ac arallgyfeirio’r economi lleol, daw buddion ehangach yn sgil hynny.
Mae colli asedau cymunedol yn bryder parhaus. Mae'r colledion hynny’n rhannol oherwydd tueddiadau economaidd newidiol a llai o gefnogaeth gan y sector cyhoeddus. Dros y blynyddoedd diwethaf, bu'r newyddion yn llawn straeon am werthu a cholli asedau cymunedol. Er enghraifft, gwerthwyd Capel Bethania, Pistyll (Gwynedd) i fuddsoddwr preifat, ar ôl i’r arwerthwyr ei hysbysebu fel “cartref gwyliau”, er gwaethaf ymdrechion glew’r gymuned i godi arian i brynu’r capel hanesyddol. Mae’r gymuned yn dal i ymgyrchu i achub tafarn Rompney Castle yn Nhredelerch (Caerdydd) rhag datblygwyr sydd am ddymchwel y dafarn 150 oed a’i throi’n fflatiau, siopau, a maes parcio.
Er mwyn sicrhau newid gwirioneddol i'n cymunedau mae angen inni ofyn cwestiynau newydd am ddiben cymdeithasol a swyddogaethau economaidd asedau lleol. Mae ymwybyddiaeth gynyddol o'r angen i ddatblygu asedau lleol ar gyfer y gymuned a sicrhau hygyrchedd i wasanaethau a phrofiadau waeth beth fo'u hincwm, eu hoedran, eu gallu neu’u cefndir. Gallai mentrau perchnogaeth gymunedol newid y ddeinameg pŵer yn lle’r dull o'r brig i'r bôn i atebion i broblemau lleol lle mae'r gymuned yn penderfynu beth sydd orau iddi. Gall lleoedd sydd â'r gallu i ddod â phobl ynghyd ddod yn ganolbwyntiau i gymunedau a helpu gwella a chyfoethogi ansawdd bywyd y trigolion. Lle cafodd mentrau newydd eu sbarduno, gall gweithredu cymunedol greu egni a dynameg newydd.
Yn bennaf oll, mae bod yn rhan o fentrau o’r fath yn cyfoethogi’r profiad o fod yn rhan o gymuned, un sy’n cydweithio er lles pawb, a all gyflawni pethau gwych pan fo pobl leol yn uno ac yn penderfynu adeiladu rhywbeth cadarnhaol a pharhaol i’r dyfodol.