Roedd Vladimir Lenin yn iawn
Mae'n anodd ysgrifennu unrhyw erthygl gyfredol y dyddiau hyn gan fod digwyddiadau'r byd yn newid mor gyflym. I fod yn fwy penodol, mae'n anodd cadw ar flaen yr hyn y mae Donald Trump yn ei wneud.
Dywedodd Vladimir Lenin, y gwleidydd chwyldroadol o Rwsia: “Mae degawdau pan nad oes dim yn digwydd ac wythnosau pan fydd degawdau’n digwydd.” Mae'n anodd credu bod geiriau Lenin am y Chwyldro Bolsiefigaidd dros ganrif yn ôl yn dal yn berthnasol heddiw.
Beth mae'r Arlywydd Trump wedi'i wneud?
Ers iddo ddychwelyd i'r Tŷ Gwyn ar Ionawr 20, 2025, mae'r Arlywydd Trump wedi llofnodi dros 50 o orchmynion gweithredol. Mae'r gorchmynion hyn yn cynnwys tynnu'n ôl o Sefydliad Iechyd y Byd, rhoi tariffau uchel ar waith, rhwystro rhaglenni DEI, ac ail-enwi Gwlff Mecsico yn swyddogol (er na fydd hyn yn effeithio ar yr enw y mae gwledydd eraill yn ei ddefnyddio). Tra bod y penderfyniadau hyn, ymysg penderfyniadau eraill, wedi synnu nifer, gellir dadlau mai gweithredoedd yr Is-lywydd JD Vance fis diwethaf sydd wedi achosi’r trallod rhyngwladol mwyaf.
Yng Nghynhadledd Ddiogelwch Munich ddechrau mis Chwefror, traddododd JD Vance araith ddeifiol yn ymosod ar gynghreiriaid Washington, gan gynnwys Prydain, wrth godi pryderon am wybodaeth anghywir, twyllwybodaeth, a hawliau rhyddid i lefaru. Cyn hyn, datganodd Ysgrifennydd Amddiffyn yr Unol Daleithiau, Pete Hegseth, y dylai Ewrop gymryd cyfrifoldeb llawn am ei hamddiffyniad ei hun. Ym Munich, atgyfnerthodd araith JD Vance y rhethreg hon, gan arwain llawer i gredu ei fod yn nodi torbwynt o ran cysylltiadau trawsatlantig. Roedd y neges i’r Deyrnas Unedig ac Ewrop yn glir: mae angen blaenoriaethu amddiffyn ac addasu i’r Unol Daleithiau sy’n dod yn fwyfwy ynysig, gan weld y cyfandir yn wrthwynebydd ideolegol ac yn gystadleuydd economaidd. Mae digwyddiadau ers y Gynhadledd Ddiogelwch wedi atgyfnerthu'r neges ymhellach.
A all y Deyrnas Unedig ail-lunio ei heconomi i ganolbwyntio ar amddiffyn?
Mae'r Deyrnas Unedig yn bwriadu cynyddu ei gwariant amddiffyn o 2.3% i 2.5% o CMC erbyn 2027. Mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn amcangyfrif bod y cynnydd hwn yn cyfateb i wariant amddiffyn ychwanegol o £6bn y flwyddyn. Mae’r cynnydd hwn yn alinio’r Deyrnas Unedig â disgwyliadau NATO, ond daw ar adeg o gyfyngiadau ariannol. Mae’n rhaid i ofal iechyd, addysg ac isadeiledd bellach gystadlu ag ymrwymiadau amddiffyn newydd am gyllid cyhoeddus. Serch hynny, mae'n debyg y bydd cynnydd mewn gwariant milwrol yn fanteisiol i ddiwydiant amddiffyn y Deyrnas Unedig. Mae biliynau yng nghontractau'r llywodraeth yn debygol o fynd i gontractwyr amddiffyn mawr, megis BAE Systems a Rolls-Royce, yn yr ychydig flynyddoedd nesaf. Yn ogystal ag effeithio ar gontractwyr amddiffyn, bydd hyn hefyd yn effeithio ar eu cadwynau cyflenwi helaeth.
Yr effaith ar economi Cymru
Daeth Darren Jones, sef un o weinidogion trysorlys y Deyrnas Unedig, i ymweld â Chymru’n ddiweddar i ystyried parodrwydd economi Cymru i gynyddu ei chynnyrch i fodloni’r gwariant ychwanegol hwn ar amddiffyn. Mae data Llywodraeth Cymru’n dangos bod sectorau awyrofod, seiber, gofod ac amddiffyn yn cyfrannu tua £4 biliwn y flwyddyn i economi Cymru, gan gefnogi tua 23,000 o swyddi. Mae’r swyddi hyn wedi’u crynhoi’n bennaf mewn dwy ardal — sef Parth Buddsoddi Wrecsam a Sir y Fflint, a Pharth Menter Maes Awyr Caerdydd-Sain Tathan. Dechreuodd Ystad Ddiwydiannol Wrecsam, sy'n rhan o'r Parth Buddsoddi, fel ffatri Ordnans Brenhinol yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Er mwyn lleihau difrod yr ymosodiadau o’r awyr, cafodd y ffatri, a gynhyrchodd y cordit gyrru ffrwydrol ar gyfer plisg, ei adeiladu dros ardal eang. Mae’r ystâd ddiwydiannol hon bellach ymhlith y mwyaf yn Ewrop, ac mae’n gartref i gannoedd o fusnesau gweithgynhyrchu a pheirianneg, o fusnesau bach a chanolig, i gwmnïau rhyngwladol. Sefydlwyd Sain Tathan yn wreiddiol fel canolfan yr Awyrlu Brenhinol yn 1938. Hyd at gau’r safle yn 2007, roedd y cyfleuster sylweddol hwn yn hollbwysig o ran cynnal a chadw ac atgyweirio awyrennau milwrol. Ers ei ddynodi’n barth menter yn 2012, mae Parth Menter Maes Awyr Caerdydd-Sain Tathan wedi denu diwydiannau uwch-dechnolegol awyrofod, amddiffyn ac uwch gweithgynhyrchu.
Mae gweithgarwch gweithgynhyrchu’n hanfodol ar adegau o wrthdaro gan ei fod yn cefnogi ymdrechion milwrol, economi ac amddiffyn cenedl yn uniongyrchol. Mae sector gweithgynhyrchu gwlad yn hollbwysig i gynhyrchu offer a chyflenwadau milwrol hanfodol, cydosod tanciau, awyrennau, bwledi a dyfeisiau cyfathrebu, na ellir eu caffael yn hawdd trwy fewnforion yn ystod cyfnod o wrthdaro. Mae sylfaen weithgynhyrchu gadarn yn darparu llif cyson o'r offer a'r technolegau hanfodol hyn.
Gadewch i ni beidio ag ildio gobaith
Rydym yn byw mewn cyfnod peryglus. Yn ei hanes o dros 78 mlynedd, nid yw Cloc Dydd y Farn, sy'n cynrychioli pa mor agos ydym at drychineb byd-eang, erioed wedi'i osod mor agos at hanner nos - dim ond 89 eiliad. Ers 1947, mae Bwletin y Gwyddonwyr Atomig, a sefydlwyd gan Albert Einstein, J. Robert Oppenheimer, a gwyddonwyr Project Manhattan a greodd yr arfau atomig cyntaf, wedi olrhain trychineb byd-eang gyda'r Cloc Dydd y Farn. Mae gwyddonwyr blaenllaw'r byd yn poeni'n arw am y risgiau dirfodol a achosir gan arfau niwclear, newid yn yr hinsawdd, bio-arfau, a thechnolegau sy'n dod i'r amlwg, gan gynnwys deallusrwydd artiffisial.
Drwy symud Cloc Dydd y Farn 1 eiliad yn nes at hanner nos, i 89 eiliad, mae Bwletin y Gwyddonwyr Atomig yn rhybuddio am risg annerbyniol o uchel o drychineb byd-eang. Rydym yn agosach nag erioed at drychineb.
Gadewch inni beidio â rhoi’r gorau i obaith y gall y byd ddod ynghyd a dathlu ein dynoliaeth gyffredin. Rydym i gyd yn gobeithio gadael byd gwell i'n plant a'u disgynyddion. Nid yw’r llwybr ymlaen yn syml, ond mae gan Gymru’r sylfaen weithgynhyrchu i gefnogi diogelwch cenedlaethol a’r gallu i weithio gydag eraill i ddod o hyd i ddatrysiadau i broblemau byd-eang.