Strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y Deyrnas Unedig: Oedd hi'n werth yr aros?
Gan barhau â'r duedd o ddiddordeb newydd mewn strategaethau diwydiannol, cyhoeddodd llywodraeth y DU ei strategaeth ddiwydiannol hir ddisgwyliedig ym mis Mehefin.
Yn niwedd yr ugeinfed ganrif, daeth strategaethau diwydiannol agored yn llai poblogaidd oherwydd amheuaeth wleidyddol gynyddol ynghylch gallu'r wladwriaeth i ymyrryd yn llwyddiannus yn y farchnad. Un rheswm allweddol dros yr amheuaeth hon yw ei bod hi’n eithaf anodd rhagweld y dyfodol. Roedd beirniadaeth o allu llywodraethau i weld i'r dyfodol a 'dewis enillwyr' i'w cefnogi drwy strategaethau diwydiannol, ac effaith andwyol lobïo gan grwpiau dylanwadol.
Fodd bynnag, mae sawl her sylweddol yn wynebu pob economi y bydd yn rhaid i lywodraethau fynd i'r afael â nhw (mae'r newid gwyrdd yn enghraifft berffaith). Oherwydd hyn, bu diddordeb newydd mewn strategaethau diwydiannol.
Strategaethau diwydiannol: O May i Hunt
Y llywodraeth ddiwethaf i gyhoeddi strategaeth ddiwydiannol swyddogol oedd llywodraeth Theresa May yn 2017. Bryd hynny, nod strategaeth ddiwydiannol y llywodraeth oedd tyfu economi'r DU drwy ganolbwyntio ar bum sylfaen cynhyrchiant. Datgelodd llywodraeth Boris Johnson 'Gynllun ar gyfer twf' yn 2021, sef cynllun newydd a oedd yn disodli strategaeth Theresa May. Roedd y cynllun yn amlinellu strategaeth y llywodraeth ar ôl y pandemig ar gyfer hybu'r economi ac 'ailadeiladu'n well'. Ym mis Ionawr 2023, amlinellodd Jeremy Hunt gynllun twf economaidd newydd y llywodraeth, gan bwysleisio pum sector allweddol: technoleg ddigidol, diwydiannau gwyrdd, gwyddorau bywyd, gweithgynhyrchu uwch, a diwydiannau creadigol.
Cynllun diwydiannol 10 mlynedd
Mae strategaeth ddiwydiannol newydd llywodraeth bresennol y Deyrnas Unedig yn manylu ar gynllun 10 mlynedd i adfywio economi Prydain a hybu ardaloedd a rhanbarthau diwydiannol sy'n dioddef o farweidd-dra economaidd. Dyma’r wyth sector sydd â'r posibilrwydd mwyaf o dwf economaidd (yn ôl y llywodraeth): gweithgynhyrchu uwch, y diwydiannau creadigol, gwyddorau bywyd, ynni glân, amddiffyn, busnesau digidol a thechnoleg (gan gynnwys deallusrwydd artiffisial a chyfrifiadura cwantwm), gwasanaethau ariannol fel bancio ac yswiriant, a gwasanaethau proffesiynol fel cyfrifeg a'r proffesiwn cyfreithiol. Rhoddir y rhan fwyaf o'r gefnogaeth – ynni rhatach, cefnogaeth masnach, a hyfforddiant sgiliau – i'r sectorau hynny.
Cyhoeddodd llywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd y bydd porthladdoedd rhydd, parthau buddsoddi, ac ardaloedd menter yn cael eu grwpio o dan y fenter “Parthau’r Strategaeth Ddiwydiannol”. Nod yr ailstrwythuro hwn yw datrys y gorgyffwrdd rhwng y tri pharth economaidd arbennig sydd bron yn union yr un fath, problem a gydnabyddir hyd yn oed gan y rhai sy'n ymwneud â nhw. Mae mwy o fanylion i ddod o hyd ar amrywiol sectorau pwysig: mae cynlluniau’r sector gwyddorau bywyd a gwasanaethau ariannol, ynghyd â’r strategaeth ddiwydiannol amddiffyn ar wahân, yn parhau i fod heb eu cyhoeddi.
Addasrwydd Strategol i Gymru?
Bydd y strategaeth ddiwydiannol hon o gymorth i sawl rhan o economi Cymru. Mae pwyslais llywodraeth y DU ar sectorau allweddol a'i gweledigaeth economaidd hirdymor yn cyd-fynd â chryfderau Cymru mewn ynni glân, amddiffyn a gweithgynhyrchu uwch.
Mae'r ymateb cychwynnol gan arweinwyr diwydiant Cymru yn dangos optimistiaeth a phositifrwydd yn bennaf. Mae rhanddeiliaid Cymru ar draws sectorau yn dra chefnogol o strategaeth ddiwydiannol llywodraeth y Deyrnas Unedig, gan nodi ei bod yn cyd-fynd â'u nodau. Mae awydd cyffredin am weithredu cyflym ond mae gweithredu ac effaith llwyddiannus yn dibynnu ar gydweithio â llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a chyrff rhanbarthol. Er bod yr ymatebion cynnar yn gadarnhaol, mae angen mwy o wybodaeth i ddeall sut y cefnogir busnesau Cymru yn eu cynlluniau twf a sut y bydd y strategaeth yn cyfrannu at dwf yr economi.
Mae rhai wedi dadlau y dylai'r llywodraeth fod wedi canolbwyntio ar yr economi ehangach, gan ystyried y busnesau manwerthu a lletygarwch a gafodd eu niweidio gan bolisïau diweddar. Nid yw'r strategaeth yn cynnig unrhyw gefnogaeth ar gyfer costau ynni na diwygio ardrethi busnes ar eu cyfer. Byddai cynnwys pethau fel hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar sawl ardal yng Nghymru lle mae diwydiannau o'r fath yn flaenllaw yn yr economi. Roedd y diwydiannau twristiaeth a lletygarwch yng Nghymru yn cyflogi bron i 160,000 o bobl yn 2024, sy'n cynrychioli 11.8% o weithlu'r genedl. Mae'r diwydiant bwyd a sectorau pwysig eraill yng Nghymru yn ansicr a ydynt yn gymwys ar gyfer y rhaglenni cyllid a chymorth newydd.
Gweledigaeth feiddgar, dewisiadau anodd
Mae angen mwy o “ddistryw creadigol” ar y Deyrnas Unedig (a Chymru), term a fathwyd gan yr economegydd o Awstria Joseph Schumpeter i ddisgrifio disodli busnesau sy’n tanberfformio â rhai mwy cynhyrchiol, twf uchel. Felly mae'n gwneud synnwyr i lywodraeth y DU ffafrio sectorau cynhyrchiant uchel a allai dyfu ymhellach ac sydd â photensial i ffurfio clystyrau economaidd.
Mae llywodraeth y DU wedi ystyried bod ei strategaeth ddiwydiannol yn hanfodol i'w hamcanion twf cyffredinol. Fodd bynnag, mae ei llwyddiant yn dibynnu ar ddewrder y llywodraeth. Mae llywodraethau'n tueddu i gefnogi busnesau sy'n ffynnu ond yn petruso i ollwng gafael ar y rhai sy’n methu, yn enwedig mewn meysydd sy'n wleidyddol dringar. Er ei bod yn anelu at ysgogi buddsoddiad drwy lacio rheoliadau a chynllunio, rhaid i'r llywodraeth oresgyn gwrthwynebiad lleol i wahanol gynigion datblygu.
Mae'r strategaeth yn feiddgar ac yn uchelgeisiol ac yn ceisio targedu diffygion hirdymor yn economi'r DU. Cyn belled â bod y llywodraeth o ddifrif ynglŷn â'r hyn y mae'n ei dweud, fe ddylem ni i gyd roi cyfle i'r strategaeth hon lwyddo.