Yn ôl i 1997: Addysg, addysg, addysg
Rhaid i fusnesau a’r llywodraeth newydd fuddsoddi mewn datblygu sgiliau a galluoedd gweithwyr os ydym am weld gwelliant yn ffyniant a llesiant y wlad.
Ar ôl chwe wythnos o ddadleuon teledu, twmpath o daflenni etholiad yn dod drwy'r blwch llythyrau, a dadansoddiad manwl o bopeth a ddywedwyd gan ymgeiswyr gwleidyddol, cynhaliwyd etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig ddydd Iau (04/07/2024). Un gred gyffredin yw nad oedd yr ornest yn un ysbrydoledig, gydag ymgeiswyr yn dangos mwy o ddiddordeb mewn sgorio pwyntiau gwleidyddol, yn hytrach na mynd i'r afael â'r gwir faterion y mae’r wlad yn eu hwynebu. Galwodd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yr etholiad yn “gynllwyn o dawelwch” gan gyhuddo’r prif bleidiau gwleidyddol o anwybyddu’r trafodaethau angenrheidiol ar drethi, gwariant, a’r diwygiadau strwythurol sydd eu hangen ar y wlad. Efallai ei bod yn naïf disgwyl i’r llywodraeth flaenorol gydnabod pa mor anodd fu pethau, neu i’r wrthblaid gyfaddef pa mor anodd yw’r ffordd o’u blaenau.
Mae CMC y pen yn fetrig poblogaidd a ddefnyddir i fesur ffyniant a lles cyfartalog gwlad. Cynhaliwyd yr etholiad cyffredinol diwethaf yn 2019, ac ers hynny, mae’r Deyrnas Unedig wedi profi gostyngiad gwerth 0.2% mewn gwir CMC y pen. Yn ystod y cyfnod hwn, profwyd cynnydd gwerth 6.0% yng ngwir CMC y pen yn yr Unol Daleithiau, o'i gymharu â 3.9% yn yr Undeb Ewropeaidd a 2.5% yn Japan. Rhwng 2019 a 2022, roedd gwir CMC y pen yng Nghymru wedi gostwng 2.8%. Yn ôl y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, mae’r Deyrnas Unedig yn debygol o fod â’r gyfradd twf economaidd isaf o blith saith economi mwyaf datblygedig y byd (y “G7”). Yn blwmp ac yn blaen, mae’r Deyrnas Unedig wedi cael trafferth wrth dyfu ei heconomi, ac mae’r sefyllfa’n annhebygol o wella’n fuan.
Ar wahân i economi swrth, mae Cymru’n wynebu llawer o broblemau eraill. Roedd 29% o blant mewn perygl o fod mewn tlodi incwm cymharol yn 2023. Dangosodd canlyniadau Pisa’r flwyddyn honno fod Cymru’n parhau i fod ar y gwaelod yn y Deyrnas Unedig o ran mathemateg, darllen a gwyddoniaeth. Dechreuodd y gwaith adeiladu 4,556 o anheddau’n 2023, i lawr o 6,224 yn 2019. Roedd 17% o bensiynwyr yn byw mewn tlodi cymharol yn 2023. Cyrhaeddodd rhestrau aros am driniaeth yn yr ysbyty’r lefel uchaf erioed, gan gyrraedd 768,899 o lwybrau cleifion ar y rhestr ym mis Mawrth 2024. Mae un o bob pedwar person sydd o oedran gweithio yng Nghymru’n economaidd anweithgar.
Mae gwireb yr economegydd a cholofnydd y New York Times, Paul Krugman, o America, yn parhau i fod yn berthnasol i wlad sy'n awyddus i fynd i'r afael â'r problemau a grybwyllwyd uchod:
“Nid cynhyrchedd yw popeth, ond, yn y tymor hir, mae bron â bod. Mae gallu gwlad i wella ei safon byw dros amser yn dibynnu, bron yn gyfan gwbl, ar ei gallu i gynyddu ei chynnyrch fesul gweithiwr.”
Mae cynhyrchedd yn ymwneud â chyflawni mwy gyda llai o ymdrech. Mae’n rhesymol disgwyl, wrth i ni gynyddu cynhyrchedd a lleihau ymdrech, y bydd ein safonau byw, gan gynnwys ansawdd gwasanaethau cyhoeddus a’n capasiti gwario personol, yn gwella. Os ydym am weld gwelliant mewn safonau byw ledled y wlad, rhaid i'r llywodraeth newydd ganolbwyntio ar wella cynhyrchedd.
Beth yw'r rhesymau sylfaenol dros y diffyg cynhyrchedd yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig? Mae sawl problem, ac mae’n haws datrys rhai na’i gilydd. Mae buddsoddiad yn bwydo cynhyrchedd, ond mae'r wlad wedi dioddef o achos danfuddsoddi cronig. Mae llawer o gwmnïau’n sownd mewn modd sgiliau isel, cyflog isel, cynhyrchedd isel oherwydd degawdau o danfuddsoddi gan fusnesau a’r llywodraeth. Pa fuddsoddiadau allai wella cynhyrchedd? Mae buddsoddi mewn datblygu sgiliau a galluoedd gweithwyr yn un ateb. Trwy fuddsoddi'n sylweddol mewn sgiliau, gall y llywodraeth a busnesau gynyddu cynhyrchedd llafur trwy ddatblygu gwybodaeth ar bob lefel, o lefel sylfaenol, i lefel dechnegol a rheolaethol uchel. Yn ogystal, byddai hefyd yn caniatáu mwy o symudedd rhwng swyddi, sy'n arwain at well cyfatebiaeth rhwng cyflenwad a galw.
Mae addysg yn gwella cyfalaf dynol pobl trwy roi’r sgiliau a’r gallu sydd eu hangen arnynt i wneud eu hamser a'u hegni’n fwy gwerthfawr i'r economi. Mae ymchwilwyr wedi nodi cysylltiad sylweddol rhwng addysg a chynhyrchedd, y mae llunwyr polisi ac arweinwyr busnes wedi'i ddefnyddio i gefnogi buddsoddiadau yn y gorffennol mewn rhaglenni sy'n canolbwyntio ar adeiladu cyfalaf dynol.
Sefydlwyd sylfaen sgiliau a gallu gweithlu heddiw cyn iddynt ddod i mewn i'r system ysgolion. Dengys astudiaethau fod addysg plentyndod cynnar yn strategaeth hynod gost effeithiol wrth feithrin twf economaidd. Nid yn unig y mae'n gwella perfformiad addysg plant, ond mae hefyd yn chwarae rhan hanfodol yn eu lles emosiynol, cymdeithasol a chyffredinol. Gall cynyddu lefelau sgiliau oedolion hefyd wella cynhyrchedd. Mae’r sector addysg uwch yn y Deyrnas Unedig yn gryf, ond mae unigolion nad ydynt yn raddedigion yn wynebu heriau. Gall diwygio rhaglenni sgiliau, hyfforddiant galwedigaethol, a phrentisiaethau i oedolion gynyddu lefelau sgiliau a lleihau anghydraddoldeb.
Mae cyflogwyr y Deyrnas Unedig ar ei hôl hi o gymharu â’u cymheiriaid rhyngwladol o ran buddsoddi mewn hyfforddi staff, ac mae’r sefyllfa’n gwaethygu. Gallai'r duedd gynyddol o weithluoedd cymysg, sy'n cyfuno gweithwyr mewnol a gweithwyr llawrydd a gontractir yn allanol, annog cyflogwyr i beidio â darparu hyfforddiant i'w gweithwyr. Dylai cyflogwyr a'r llywodraeth fuddsoddi mewn hyfforddiant, gyda'r llywodraeth yn cynnig mwy o gymhellion ariannol i fusnesau ddarparu hyfforddiant.
Mae heriau enfawr yn disgwyl y llywodraeth newydd. Nid oes amheuaeth y gallai rhai pethau annisgwyl fod o'n blaenau. Ond, gyda lwc, ni fyddant yn waeth na'r ansicrwydd ynghylch Brexit, Covid-19, y rhyfel yn Wcráin, a'r argyfwng costau byw. Gyda llai o ansicrwydd, gallwn ddisgwyl mwy o fuddsoddiad gan y llywodraeth a busnesau mewn meysydd sy'n gwella cynhyrchedd a safonau byw pobl.